Bechgyn Drwg Am Byth gan Llwyd Owen
Siop Tŷ Tawe
£9.99
Nofel afaelgar gan awdur profiadol. Ar ôl dychwelyd i Gerddi Hwyan ar gyfer angladd ei dad, daw'r cyn-filwr Rob Evans i ddeall bod y dafarn deuluol mewn trafferthion dybryd. Roedd yr hen ddyn wedi benthyg hanner can mil o bunnoedd gan bennaeth y gang troseddu lleol, Pete Gibson. Gyda mis i ad-dalu'r ddyled rhaid i Rob a'i frawd ddod o hyd i gynllun ar frys.
- ISBN: 9781800997073
- Awdur: Llwyd Owen
- Cyhoeddwr: Y Lolfa
- Nifer y tudalennau: 240
- Dyddiad cyhoeddi: 2025-07-15