Blwyddyn Gron gol. Sian Northey
Siop Tŷ Tawe
Casgliad o gerddi i’w defnyddio yng nghylch y tymhorau yw hwn. Mynd o ŵyl i ŵyl yw hanes y flwyddyn – ar ôl y Calan, daw Dydd Santes Dwynwen, y Grawys, Gŵyl Ddewi, Sul y Mamau yna’r Groglith a’r Pasg. Bydd angen cerdyn neu gyfarfodydd i ddathlu rhai o’r achlysuron – ac mae dewis o eiriau defnyddiol yn y gyfrol hon. Bydd thema ‘cariad’ Dydd Santes Dwynwen yn cynnig cerddi addas i’w darllen mewn seremoni briodasol yn ogystal. Aiff y flwyddyn rhagddi – o Eisteddfod yr Urdd i wyliau’r haf ac i ddathliad cenedlaethol Dydd Glyndŵr. Ar ôl Diolchgarwch bydd Dygwyl y Meirw – ac yma ceir casgliad o gerddi addas i’w darllen mewn angladdau. Wedi hynny, daw Calan Gaeaf a bydd yr Adfent a’r Nadolig yn goleuo dyddiau bach duon y gaeaf yn fuan iawn. Dyna’r gwyliau – a dyma’r geiriau. Rhowch y geiriau ar waith!
- ISBN: 9781845274320
- Awdur: Gwasg Carreg Gwalch
- Golygydd: Siân Northey
- Darlunydd: Anthony Evans
- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
- Nifer y tudalennau: 176
- Dyddiad cyhoeddi: 2013-10-29