Brodyr a Chwiorydd

Siop Tŷ Tawe

£8.95
Cyfrol o straeon byrion cyfoes sy’n archwilio’r haen denau iawn sy’n cadw cymdeithas yn wâr. A ninnau’n clywed yn feunyddiol ein bod ar ddibyn apocalyptaidd i’r economi byd-eang archwilir y cyfnod arswydus hwn drwy dwrio i hanesion unigolion difyr, gan amlaf â rhyw berthynas deuluol rhyngddynt. Yn amlach na pheidio ceir elfen dywyll i’r straeon ac fe’n hanesmwythir yn aml gan ddawn yr awdur i daflu’r darllenydd oddi ar ei echel gyfforddus. Yn hanu o Dregaron, Ceredigion, bu Geraint Lewis yn ysgrifennu’n llawn amser am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn bennaf ar gyfer y teledu. Mae e’n aelod o dîm ysgrifennu’r opera sebon Pobol y Cwm. Hon yw ei bumed gyfrol o ryddiaith a chynhyrchwyd saith o’i ddramâu theatr ar hyd a lled Cymru. Mae ef hefyd yn actio yn achlysurol, gan gynnwys rhan Sianco yn y ffilm deledu Martha, Jac a Sianco. Mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd.