Cam i’r Gorffennol Gan Rhys Mwyn

Siop Tŷ Tawe

£8.50
Cyfrol fydd hon lle bydd yr awdur yn dewis oddeutu 20 o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a / neu hanesyddol yng ngogledd Cymru ac yn cyflwyno ysgrif yn trin a thrafod pob un yn unigol. Safleoedd fydd rhain nad ydynt wedi cael fawr o sylw cyn hyn – perlau cudd gogledd Cymru fel petai. Ceir manylion am y cyd-destun hanesyddol a phwysigrwydd y safleoedd a’r creiriau a ddarganfuwyd yno i Gymru. I gyd-fynd â phob darn, bydd tudalen o gyfarwyddiadau ar sut i ymweld â’r safle (lle i barcio, pa lwybrau i’w dilyn, pethau eraill o ddiddordeb ar y daith) a map. Un o nodweddion y gyfrol fydd linc neu logo QR ar waelod bob tudalen o gyfarwyddiadau, fel y gall y darllenydd lawrlwytho’r cyfarwyddiadau a’r map i ffôn symudol. Golyga hyn na fydd rhaid i unrhyw un sy’n dymuno dilyn y daith wneud ffotocopi o’r manylion na mynd â’r llyfr gyda nhw. Bwriad y gyfrol yw trafod archaeoleg gogledd Cymru mewn dull nad yw’n academaidd, a’r rheswm dros gadw’r ysgrifau a’r daith ar wahân yw galluogi pobl na allant ddilyn taith i werthfawrogi nodweddion y safle o gadair freichiau, fel petai.