Dan Ddylanwad gan John Alwyn Roberts

Siop Tŷ Tawe

£7.50

Llofruddiwyd merch ifanc yng Nglan Morfa ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’r un peth wedi digwydd eto. Pan ddaw Elen Thomas i ddeall fod rhywun wedi bod yn torri i mewn i ffermdy unig ei modryb ym mherfeddion nos er mwyn ei dychryn, nid at yr heddlu mae hi’n troi. Meurig Morgan lwyddodd i ddatrys dirgelwch marwolaeth ei gŵr bum mlynedd ynghynt – ond y tro yma, fydd o’n tynnu blewyn o’r trwyn anghywir? Dyma ddilyniant llawn twyll a dirgelwch i nofel gyffrous gyntaf John Alwyn Griffiths, Dan yr Wyneb. ‘Dyma chwip o nofel, sy’n symud yn gyflym ond yn hyderus ac yn ddifyrrwch pur. Darllenwch, mwynhewch . . . a gweddïwch mai ffuglen yw’r cyfan.’ Adolygiad o Dan yr Wyneb; Catrin Beard, gwales.com

  • ISBN: 9781845274344
  • Awdur: John Alwyn Griffiths
  • Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
  • Nifer y tudalennau: 360
  • Dyddiad cyhoeddi: 2019-11-28