Dau Gan Bethan Nantcyll
Siop Tŷ Tawe
£10.00
Mae <i>Dau</i> yn nofel dawel, gynnil ac iddi ddyfnder profiad ac emosiwn. Stori am gynefin a pherthyn, am gyfrinachau a ffyddlondeb, am ofnau ac amheuon, ond goruwch popeth, am ofal a chariad. Stori'r ddau efaill Wiliam a Gwen, y ddau olaf o 'ddwsin dedwydd' fferm y Nant. Trwy eu llygaid nhw profwn y newid a welir ar yr aelwyd ac o fewn cymuned wledig sefydledig dros gyfnod o flynyddoedd.
- ISBN: 9781917006965
- Awdur: Bethan Nantcyll
- Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn
- Nifer y tudalennau: 150
- Dyddiad cyhoeddi: 2025-02-21