Fy Mhlentyn Tlws

Siop Tŷ Tawe

£12.99

Llyfr hardd i gofnodi a thrysori misoedd cyntaf baban - o'i eiriau a'i gamau cyntaf i'w hoff fwyd. Mae lle i nodi atgofion annwyl a cherrig milltir pwysig yn ogystal â lle i ludo lluniau arbennig. Dyma lyfr gwreiddiol, llawn hwiangerddi Cymraeg, sy'n anrheg perffaith i rieni gadw digwyddiadau pwysig ar gof a chadw. Yn addurno'r cyfan, ceir darluniau hoffus o anifeiliaid gan Lleucu Gwenllian.

  • ISBN: 9781800997523
  • Awdur: Y Lolfa
  • Darlunydd: Lleucu Gwenllian
  • Cyhoeddwr: Y Lolfa
  • Nifer y tudalennau: 44
  • Dyddiad cyhoeddi: 2026-02-09