Hiwmor Pobol Capel

Siop Tŷ Tawe

£7.50
Pwy oedd Bull McCabe? Beth oedd natur y berthynas rhwng yr hen Frenhines Fictoria a'i 'chariadlanc' o India? Pa gysylltiad sydd rhwng T. H. Parry-Williams a Mistar Chips? Sut tybed y daeth un o ddramâu coll Cynan i'r fei? Pam defnyddio’r ymadrodd 'Ych a Fi' mewn cyswllt â Syr Thomas Parry o bawb? Ai'r gwir yw mai o ganol Iorddonen y codwyd y garreg honno? Beth oedd pwrpas yr ohebiaeth fu unwaith rhwng yr awdur a Jimmy Savile? Sut fath o hiwmor yw hiwmor pobol capal? Ceir atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy yn y gyfrol ddifyr hon sy’n gymysgedd o’r dwys ac o’r gwamal, o’r difri ac o’r digri. Caiff y darllenydd ei dal yn chwerthin yn uchel un munud ond ei orfodi i oedi’n ystyriol yn y nesa’. Daw’r cyfan unwaith eto o law yr awdur toreithiog o Borth-y-gest – y Monwysyn alltud brwd – y dywedwyd amdano gan Derec Llwyd Morgan ei fod yn ‘un o Gymreigwyr idiomatig gorau ei genhedlaeth’.