How Welsh Music Came of Age gan Dave Burns
Siop Tŷ Tawe
£8.99
Pan ffurfiwyd Yr Hennessys ganol y chwedegau fe wnaethon nhw sylweddoli'n fuan iawn fod ganddyn nhw broblem o ran hunaniaeth. Cymerai'r triawd yn ganiataol mai band Gwyddelig oedden nhw oedd yn digwydd byw yng Nghaerdydd. Yna, ar ddiwedd sesiwn yn Ninas Corc dyma rhywun yn gofyn pam nad oedden nhw'n canu caneuon Cymraeg?