Ifor Bach
Siop Tŷ Tawe
£8.99
Bu gaeaf 1158 yn arw ym mhob ystyr. A'r eira'n drwch, mae'r gwalch glas yn chwilio am fwyd, ac mae dyfodol llys Gelli-gaer yn beryglus o fregus. A fydd Ifor yn llwyddo i amddiffyn ei gastell, ei bobl a'i deulu rhag y gelyn? A phwy yn union yw'r gelyn? Nofel am frad, am fygythiad ac am gwlwm teulu, sy'n ein hatgoffa bod y gwir i'w ganfod, yn aml, yn y mannau mwyaf annisgwyl.
- ISBN: 9781848519879
- Awdur: Eurig Salisbury
- Darlunydd: Jac Jones
- Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa
- Nifer y tudalennau: 228
- Dyddiad cyhoeddi: 2019-08-01