Julian Lewis Jones Allan O’r Cysgodion

Siop Tŷ Tawe

£9.95
Cofiant onest a hawdd i’w ddarllen gan actor adnabyddus. Mae Julian Lewis Jones yn siarad am y rhwystredigaethau mae wedi eu canfod ar hyd ei fywyd a’i yrfa actio. Mae ei yrfa wedi blodeuo eleni ac mae wedi cael y cyfle i weithio gyda mawrion y byd ffilm yn America. Mae’n gyflwynydd ei raglen ei hun ar S4C ac yn wyneb cyfarwydd i ffans y comedi Stella – prosiect mawr cyntaf Ruth Jones ar ôl Gavin & Stacey. Awdur y gyfrol yw Alun Gibbard sydd wedi sgrifennu nifer o gofiannau llwyddiannus i’r Lolfa gan gynnwys cofiant Tony ac Aloma. Mae’r gyflwynydd adnabyddus ac yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae’n siarad yn onest am y salwch fel plentyn (bronchital asthma) oedd yn golygu iddo golli llawer o’r ysgol a wynebu unigedd ac anallu i ymuno mewn gemau gyda’i gyfoedion fel bachgen ifanc. Mae’n gymeriad adnabyddus yn Stella, cyfres gomedi Ruth Jones ar Sky 1 a chyfresi Cymraeg a Phrydeinig fel Caerdydd a Where the Heart Is. Mae’n gyflwynydd y rhaglen ’Sgota ar S4C.