Llyfr Lliwio Hud
Siop Tŷ Tawe
£7.99
Mae <i>Llyfr Lliwio Hud - Ar y Fferm</i> yn llyfr gweithgaredd difyr i blant ifanc. Mae'r plentyn yn gallu ychwanegu lliw at wahanol luniau fferm trwy wlychu brwsh paent a phaentio dros y tudalennau. Does dim angen paent. Ar ôl eu paentio, mae'r lliw yn diflannu'n hudol fel y gall y plentyn ailwneud y gweithgaredd dro ar ôl tro.
- ISBN: 9781801060882
- Awdur: Roger Priddy
- Cyfieithydd: Glyn Saunders Jones
- Darlunydd: Lindsey Sagar
- Cyhoeddwr: Atebol
- Nifer y tudalennau: 12
- Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-31