Meirw Byw gan Rolant Tomos

Siop Tŷ Tawe

£8.50

Tydi bywyd ddim yn hawdd i Gwen ac Idris. Mae eu tad wedi colli'r plot a'u mam wedi cael ei chipio i'r is-fyd drwy dwll yn y seler, ac mae'n rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth y Meirw Byw er mwyn ei chael yn ôl. Daw'r ddau i ddeall fod ochr gudd i Gymru yn llawn creaduriaid y tu hwnt i'w hunllefau gwaethaf, ac y bydd angen iddynt frwydro yn erbyn pwerau tywyll er mwyn achub eu mamwlad.

  • ISBN: 9781845279516
  • Awdur: Rolant Tomos
  • Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
  • Nifer y tudalennau: 200
  • Dyddiad cyhoeddi: 2024-09-06