Patagonia Taith Mewn Paent gan Meirion J

Siop Tŷ Tawe

£40.00

Llyfr o ddarluniau yw'r un dan sylw, sef gwaith a sbardunwyd yn y Batagonia Gymraeg adeg blwyddyn y dathlu yn 2015. Gyferbyn â phob delwedd mae ymateb ysgrifenedig gan drigolion a Chymry sy'n adnabod Patagonia yn dda. Ceir cyfraniad gan drawstoriad o bobl sy'n creu naws naturiol a difyr i'r llyfr, ac mae tinc Patagonaidd i nifer o'r darnau. Byddai hwn yn gweithio fel 'llyfr bwrdd coffi'.

  • ISBN: 9781800996434
  • Awdur: Meirion Jones
  • Golygydd: Cedron Sion
  • Cyhoeddwr: Y Lolfa
  • Nifer y tudalennau: 156
  • Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-27