Pi po Cyw
Siop Tŷ Tawe
£3.95
Cyfres newydd Dysgu gyda Cyw, i ddysgwyr ifanc iawn, gyda thestun dwyieithog. Llyfrau perffaith i blant bach i ddysgu geirfa sy'n gysylltiedig â'r cymeriadau poblogaidd sydd ar S4C a phatrymau iaith syml. Bydd pob llyfr â thema benodol e.e. yn y gegin, y fferm, ar lan y môr. Y tro hwn mae Cyw a'i ffrindiau yn chwarae cuddio.
- ISBN: 9781784614263
- Awdur: Anni Llŷn
- Cyhoeddwr: Y Lolfa
- Nifer y tudalennau: 24
- Dyddiad cyhoeddi: 2019-12-13