Pos i ti
Siop Tŷ Tawe
£2.99
Llyfr lliwgar yn cynnwys 14 o bosau geiriau am y fferm, yr ysgol, lliwiau, dillad, a llawer mwy. Dyma gyfle perffaith i ymarfer dy eiriau Cymraeg cyntaf drwy gyfrwng amrywiaeth o bosau a gemau difyr. Bydd y darluniau hyfryd yn help i ddatrys y posau, ac fe gei di ymarfer yr wyddor hefyd. Mae'r atebion i gyd yng nghefn y llyfr, ynghyd â rhestr eiriau wedi'i gosod yn nhrefn yr wyddor.
- ISBN: 9781849673600
- Awdur: Bruzzone, Croxon, Millar
- Cyfieithydd: Siân Lewis
- Cyhoeddwr: Rily
- Nifer y tudalennau: 32
- Dyddiad cyhoeddi: 2017-02-02