Posau Maths
Siop Tŷ Tawe
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr argraffiad cyntaf a'r galw parhaol amdano, rydym wedi ailargraffu POSAU MATHS i ymateb i'r galw. Bocs gweithgareddau sy'n llawn o weithgareddau a gemau mathemategol. Gyda chardiau sgwennu a sychu, gellir ail ddefnyddio'r cardiau a'r gweithgareddau dro ar ôl tro. Mae'r pecyn wedi bod yn boblogaidd gyda theuluoedd ac ysgolion, oherwydd ad-dasrwydd y cynnwys o ran gwella sgiliau mathemateg … a hynny drwy wneud y gweithgaredd yn un ddifyr! Gellir defnyddio'r gweithgareddau gyda phlant a disgy-blion rhwng pump a deuddeg oed gan fod y cynnwys yn addas ar gyfer gwahanol oedrannau yn ôl eu gallu i drin a thrafod rhifau. Mae'r pecyn Sgwennu a Sychu yn cynnwys pen du. Mae modd glanhau'r cardiau a'u hail ddefnyddio. Ond, yn bwysicach fyth mae'r atebion wedi'u cynnwys hefyd!
- ISBN: 9781908574404
- Awdur: Sarah Khan
- Cyfieithydd: Robin Bateman a Glyn Saunders Jones
- Darlunydd: Lizzie Barber, Non Figg, Stella Baggott
- Cyhoeddwr: Atebol
- Nifer y tudalennau: 96
- Dyddiad cyhoeddi: 2016-03-08