Siop Dan Evans Y Barri
Siop Tŷ Tawe
£5.00
Yn y gyfrol hon cawn hanes siop a sefydlwyd gyda geni tref y Barri, a dilyn sut y tyfodd gyda thwf y dref drwy ddylanwad un dyn, sef Dan Evans. Bu’r busnes hefyd yn hwb i Gymreigrwydd y Barri, a fu o’r dechrau yn feicrocosm o’r byd gyda’i chymunedau.
Roedd Siop Dan Evans y Barri yn un o’r siopau mwyaf yng Nghymru rhyw gan mlynedd yn ôl. Yn y diwedd, bu’n rhaid iddi gau oherwydd y newidiadau cyfoes mewn arferion siopa.
Mae’n stori sy’n ysbrydoli pobl sydd am fentro ar eu liwt eu hunain ym mhob oes – gan ddangos sut mae cynnwys y gymuned yn y busnes gyda sensitifrwydd a brwdfrydedd. Mae’r oes yn wahanol yn awr, ond yr un yw’r egwyddorion.