Jac a'r Angel gan Daf James

Siop Tŷ Tawe

£7.99

Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda'i dad-cu, ond mae'r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae'n edrych fel petai'r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol. Ond pan mae'r Nadolig yn dechrau diflannu o'i gwmpas, a theulu'r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd - a'r Nadolig - am byth.

  • ISBN: 9781800993921
  • Awdur: Daf James
  • Cyhoeddwr: Y Lolfa
  • Nifer y tudalennau: 254
  • Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-17