Y Delyn Aur
Siop Tŷ Tawe
£10.00
Dyma gofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy'n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth iddo olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Yn gefndir i'r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Chofid-19. Mae'n ysgrifennu'n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni ei blant a cholli aelodau teulu agos, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a'i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg. Bydd y gyfrol arbennig hon yn eich annog i feddwl a myfyrio ar eich hunaniaeth eich hunan a'r cyfnod cythryblus rydyn ni newydd fyw trwyddo.
- ISBN: 9781913996680
- Awdur: Malachy Edwards
- Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn
- Nifer y tudalennau: 360
- Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-03