Y Gwyliau Gan Sioned Wiliam

Siop Tŷ Tawe

£9.99

Pythefnos o wyliau mewn fila yn Umbria… O gwmpas y pwll glas, fe fydd bywyd wedi newid am byth i rai o'r cymeriadau erbyn diwedd y gwyliau. Mae Tudur ac Elinor yn edrych ymlaen at gael teulu a ffrindiau i aros yn eu fila hyfryd. Haul a'u hoff bobol – beth allai fod yn well? Ond mae nifer o gyfrinachau'n llechu o dan yr wyneb gwareiddiedig. Nofel gyfoes ac iddi linyn storïol gref.

  • ISBN: 9781800993556
  • Awdur: Sioned Wiliam
  • Cyhoeddwr: Y Lolfa
  • Nifer y tudalennau: 224
  • Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-01