Y Pibgorn Hud gan Gareth Evans
Siop Tŷ Tawe
£8.50
Nofel antur wedi'i lleoli ym merw'r chweched ganrif. Prydain. Y flwyddyn 552. Ynys ranedig. Ynys llawn tensiwn, sy'n bygwth ffrwydro fel llosgfynydd. Ynys sy'n simsanu ar ôl i'r pla sgubo drwy'r tir. Y cleddyf sy'n rheoli bellach. Ac mae rhaid i bawb ddilyn y drefn. Yn enwedig plant. Yn enwedig merched. Pawb heblaw merch deuddeg oed o'r enw Ina.
- ISBN: 9781845277413
- Awdur: Gareth Evans
- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
- Nifer y tudalennau: 120
- Dyddiad cyhoeddi: 2020-09-21