Si Hei Lwli gan Angharad Tomos
Siop Tŷ Tawe
£6.95
ISBN: 9780862432515
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Ebrill 2005
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 1x1 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol medal ryddiaith Bro Delyn a dderbyniodd ganmoliaeth frwd y beirniaid, yn sôn am ddwy ferch yn cyd-deithio mewn car er bod pellter oes yn eu gwahanu. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ionawr 1991.
The novel which won the prose medal at this year's National Eisteddfod as well as the high acclaim of the three adjudicators. First published January 1991.
Nofel gelfydd am henaint yw Si Hei Lwli. Cawn gwrdd ynddi â Bigw sydd yn naw deg rhywbeth oed ac yn byw yn brudd mewn cartref hen bobl. Nid yw ei theulu yn poeni amdani, a dim ond i Nadolig y mae hi yn cael dod atynt i ginio, a chael amser diflas pryd hynny. Ond mae Eleni eisiau mynd â'i hen fodryb am dro yn y car. Parchu Bigw mae Eleni, a'r hen fyd y mae hi yn ei gynrhychioli. A pham na ddylai'r hen wraig gael gosod blodau ar fedd ei chwaer? Ffwrdd â nhw ar fyrder felly ar hyd lonydd a ffyrdd Arfon. Taith awr yw hi i'r fynwent, ond siwrnai epig ydyw ar sawl golwg. Mae Bigw eisiau trafaelu ar hyd yr hen lwybrau, ond anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae traffyrdd a cylchfannau'r oes wedi gweddnewid y wlad, a'r hyn fu yn arwyddocaol gynt - swyddfa bost, hen ffermdy, lôn gefn - ar gadw yn y cof yn unig. Sut mae cyrraedd man sydd wedi darfod? Sut gall dychwelyd yno fod yn ystyrlon pan mae rhaid defnyddio ffordd ddieithr i gyrraedd pen y daith? Mewn dull tra syml ond hynod o effeithiol, mae Angharad yn trafod dieithrwch Bigw yn y byd sydd ohoni. Nid oes neb o'r sawl a'i carodd ar ôl, a mae'r byd y bu yn perthyn iddo wedi ei ddifetha gan ddatblygiadau'r oes. Hwyrach nad datganiad gwleidyddol mo Si Hei Lwli yn bennaf, ond mae'r nofel yn trafod annibyniaeth a chaethiwed, a'r hyn sydd yn peri i rai fod heb rym dros eu ffawd eu hunain.