{"product_id":"si-hei-lwli-gan-angharad-tomos","title":"Si Hei Lwli gan Angharad Tomos","description":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003cspan class=\"biblio_isbn\"\u003eISBN: 9780862432515\u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003cspan class=\"biblio_pub_date\"\u003eDyddiad Cyhoeddi: 27 Ebrill 2005 \u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003cspan class=\"biblio_pub_date\"\u003eCyhoeddwr: Y Lolfa\u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003cspan class=\"biblio_format\"\u003eFformat: Clawr Meddal, 1x1 mm, 144 tudalen\u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003e\u003cspan class=\"biblio_language\"\u003eIaith: Cymraeg\u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eCyfrol medal ryddiaith Bro Delyn a dderbyniodd ganmoliaeth frwd y beirniaid, yn sôn am ddwy ferch yn cyd-deithio mewn car er bod pellter oes yn eu gwahanu. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ionawr 1991.\u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cspan\u003eThe novel which won the prose medal at this year's National Eisteddfod as well as the high acclaim of the three adjudicators. First published January 1991.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info1\"\u003eNofel gelfydd am henaint yw \u003ci\u003eSi Hei Lwli\u003c\/i\u003e. Cawn gwrdd ynddi â Bigw sydd yn naw deg rhywbeth oed ac yn byw yn brudd mewn cartref hen bobl. Nid yw ei theulu yn poeni amdani, a dim ond i Nadolig y mae hi yn cael dod atynt i ginio, a chael amser diflas pryd hynny. Ond mae Eleni eisiau mynd â'i hen fodryb am dro yn y car. Parchu Bigw mae Eleni, a'r hen fyd y mae hi yn ei gynrhychioli. A pham na ddylai'r hen wraig gael gosod blodau ar fedd ei chwaer? Ffwrdd â nhw ar fyrder felly ar hyd lonydd a ffyrdd Arfon. Taith awr yw hi i'r fynwent, ond siwrnai epig ydyw ar sawl golwg. Mae Bigw eisiau trafaelu ar hyd yr hen lwybrau, ond anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae traffyrdd a cylchfannau'r oes wedi gweddnewid y wlad, a'r hyn fu yn arwyddocaol gynt - swyddfa bost, hen ffermdy, lôn gefn - ar gadw yn y cof yn unig. Sut mae cyrraedd man sydd wedi darfod? Sut gall dychwelyd yno fod yn ystyrlon pan mae rhaid defnyddio ffordd ddieithr i gyrraedd pen y daith? Mewn dull tra syml ond hynod o effeithiol, mae Angharad yn trafod dieithrwch Bigw yn y byd sydd ohoni. Nid oes neb o'r sawl a'i carodd ar ôl, a mae'r byd y bu yn perthyn iddo wedi ei ddifetha gan ddatblygiadau'r oes. Hwyrach nad datganiad gwleidyddol mo \u003ci\u003eSi Hei Lwli\u003c\/i\u003e yn bennaf, ond mae'r nofel yn trafod annibyniaeth a chaethiwed, a'r hyn sydd yn peri i rai fod heb rym dros eu ffawd eu hunain.\u003cbr\u003e\n\u003c\/div\u003e","brand":"Siop Tŷ Tawe","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58302361174398,"sku":null,"price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0582\/1897\/1321\/files\/sihei.jpg?v=1793969953","url":"https:\/\/sioptytawe.co.uk\/en\/products\/si-hei-lwli-gan-angharad-tomos","provider":"Siop Tŷ Tawe","version":"1.0","type":"link"}