Cyffwrth a theimlo: Ti'n Werth y Byd

Cyffwrth a theimlo: Ti'n Werth y Byd

Regular price
£5.99 GBP
Sale price
£5.99 GBP
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

ISBN: 9781910574423 (1910574422)

Dyddiad Cyhoeddi: 06 Ebrill 2016

Cyhoeddwr: Atebol

Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gruffudd Antur

Fformat: Clawr Caled, 210x130 mm, 10 tudalen

Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Addas i oed 0-5 neu Cyfnod Allweddol 1

 

Llyfr cyffwrdd a theimlo lliwgar a deniadol sy'n siwr o blesio'r rhai bach. Mae'r llyfr yn rhan o'r gyfres 'Alphaprints', sef cyfres o lyfrau cyffwrdd a theimlo gyda darluniau trawiadol wedi'u creu ag olion bysedd a gwaith graffeg unigryw. Addas i fabanod a phlant 0-4 oed.

A colourful and appealing 'touch and feel' book to delight and entertain young children 0-4 years old.

Dyma'r teitl diweddaraf yn ein cyfres 'Alphaprint' ar gyfer plant bach. Mae'r llyfr hwn a'r gyfres gyfan yn cynnwys tudalennau cyffwrdd a theimlo, gyda thestun sy'n odli a darluniau cyfoes ac arbennig, sy'n gyfuniad o olion bysedd a del-weddau graffeg.
Perthynas gydag eraill a chariad teuluol ydy canolbwynt y llyfr hwn. Mae'r berthynas yma'n cael ei bortreadu trwy adrodd stori pedwar anifail gwahanol. Llyfr cynnes a hapus sy'n siwr o ennyn diddordeb plant bach mewn llyfrau a lluniau.
Bydd y teitl yma a’r gyfres gyfan yn addas ar gyfer teuluoedd, ysgolion a chanolfannau meithrin a'r Cyfnod Sylfaen.
Mae'r teitlau eraill yn y gyfres yn cynnwys y teitlau canlynol:
Un, Dau, Tri - 1, 2, 3 - One, Two, Three
Anifeiliaid - Animals
Lliwiau - Colours
Cyw a'i Ffrindiau - Cyw and his Friends