Y Telynor Dall gol. Arfon Gwilym

Y Telynor Dall gol. Arfon Gwilym

Regular price
£8.00 GBP
Sale price
£8.00 GBP
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

ISBN: 9781845279882

Dyddiad Cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2025

Cyhoeddwr: Cymdeithas y Delyn Deires

Golygwyd gan Arfon Gwilym

Fformat: Clawr Meddal, 210x147 mm, 96 tudalen

Iaith: Cymraeg

 

ISBN: 9781845279882

Publication Date: 10 December 2025

Publisher: Cymdeithas y Delyn Deires

Edited by Arfon Gwilym

Format: Paperback, 210x147 mm, 96 pages

Language: Welsh

 

Ymhell cyn dyddiau'r Gwasanaeth Iechyd a'r Wladwriaeth Les, sut oedd neb yn dygymod â cholli ei olwg yn gynnar yn ei fywyd? Yn achos Dafydd Roberts, defnyddio ei holl ddoniau hyd yr eithaf, a byw ei fywyd yn llawn.

Long before the days of the Health Service and the Welfare State, how did anyone cope with losing their sight early in life? In the case of Dafydd Roberts, using all his talents to the fullest, and living his life to the fullest.

 

Ganed Telynor Mawddwy yn 1875. Fel telynor ac fel canwr penillion ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, enillodd brif wobrau'r Eisteddfod droeon. Treuliodd weddill ei oes yn hybu'r grefft o 'ganu gyda'r tannau'. Roedd ganddo gof eithriadol, a chasglodd ynghyd gyfrol o gerddi a phenillion telyn. Cofir amdano hefyd fel pregethwr cynorthwyol poblogaidd, fel trwsiwr a thiwniwr pianos ac organau, ond yn bennaf efallai fel cymeriad hoffus ac annwyl nad oedd byth yn cwyno ar ei fyd.
Taflu cipolwg ar y bywyd llawn a diddorol hwnnw a wneir yn y gyfrol hon.